Prayers & Meditations

Welsh · Bahá'u'lláh

Add range:

(I’w hadrodd unwaith mewn pedair awr ar hugain)

Y sawl a ddymuna adrodd y weddi hon, bydded iddo sefyll ar ei draed a throi at Dduw, ac fel y saif un ei le, bydded iddo edrychi i’r dde ac i’r chwith, fel petai’n disgwyl am drugaredd ei Arglwydd, yr Holl-Drugarog, y Tosturiol. Yna dyweded:

O Tydi yr hwn wyt Arglwydd yr holl enwau a chrewr y nefoedd! Erfyniaf arnat trwy’r rhai sydd yn Ffynonellau-Ddydd Dy Hanfod anweledig, y Mwyaf Dyrchafedig, yr Holl-Ogoneddus, i wneud o’m gweddi dân, a losga’n llwyr y llenni sydd wedi fy nghau allan o’th harddwch, a golau a’m harwain I eigion Dy Bresenoldeb.

Yna bydded iddo godi ei ddwylo mewn ymbil i Dduw – bendigedig a dyrchafedig fyddo Ef – a dweud:

O Tydi Ddyhead y byd ac anwylyd y cenhedloedd! Yr wyt yn fy ngweld yn troi Atat, ac wedi cael gwared o bob ymlyniad ond wrthyt Ti, ac yn glynnu wrth Dy gortyn, trwy symudiad yr hwn y cynhyrfwyd yr holl greadigaeth. Dy was ydwyf, O Arglwydd, a mab Dy was. Gwêl fi’n barod i wneud Dy ewyllys a’th ddymuniad, gan ddymuno dim arall ond Dy bleser. Erfyniaf Arnat, trwy Eigion Dy drugaredd a Seren-Ddydd Dy ras i wneud â Dy was yn ôl Dy ewyllys a’th bleser. Trwy Dy nerth sy’ mhell uwchben pob sôn a mawl! Pa beth bynnag a ddatguddir gennyt yw dymuniad fy nghalon ac anwylyd fy enaid. O fy Nuw, fy Nuw! Paid ag edrych ar fy ngobeithion a’m gweithredoedd, ond edrych yn hytrach ar Dy ewyllys a gwmpasodd y nefoedd a’r ddaear. Yn ôl Dy Enw Mwyaf Di, O Arglwydd yr holl genhedloedd! Deisyfais yn unig yr hyn a ddeisyfaist Di, a charu yn unig yr hyn a geraist Di.

Yna bydded iddo benlinio, a chan ymgrymu â’i ben ar y llawr, dyweded:

Dyrchafedig wyt Ti uwchben disgrifiad neb ond Tydi Dy hun, ac amgyffred dim ond Tydi.

Yna bydded iddo sefyll a dweud:

Gwna fy ngweddi, O fy Arglwydd yn ffynnon dyfroedd bywiol fel y gallaf fyw cyhyd ag y pery dy sofraniaeth Di, a chrybwyll Di ym mhob un o’th fydoedd Di.

Bydded iddo eto godi ei ddwylo mewn ymbil a dweud:

O Tydi y mae calonnau ac eneidiau a wahanwyd oddi Wrthyt wedi toddi, a’r holl fyd yn fflam gan dân Dy gariad! Erfyniaf arnat trwy Dy enw yr wyt wedi darostwng yr holl greadigaeth trwyddo, i beidio â dal yn ôl oddi wrthyf yr hyn sydd gyda Thi, O Tydi sy’n llywodraethu dros bob dyn! Fe weli Di, O fy Arglwydd, yr estron hwn yn brysio i’w gartref mwyaf dyrchafedig o dan nenlen Dy fawrhydi ac o fewn i gyffiniau Dy drugaredd, a’r troseddwr hwn yn chwilio am eigion Dy faddeuant, a’r un gostyngedig hwn am lys Dy ogoniant, a’r creadur truan hwn am wawr Dy gyfoeth. I Ti mae’r awdurdod i orchymyn pa beth bynnag a ddymuni. Tystiaf Dy fod i’th addoli yn Dy weithredoedd, a’th ufuddhau yn Dy orchmynion, ac i aros heb Dy gyfyngu yn Dy wahoddiad.

Yna bydded iddo godi ei ddwylo a dweud dair gwaith yr Enw Mwyaf Mawr (Alláh-u-Abhá). Ac yna plygu i lawr gyda’i ddwylo yn gorffwys ar ei liniau o flaen Duw – bendigedig a dyrchafedig fyddo Ef – a dweud:

Fe weli Di, O fy Nuw, sut mae fy ysbryd wedi ei gynhyrfu oddi fewn i’m aelodau a’m corff, yn ei ddyhead i’th addoli Di, ac yn ei awydd i’th gofio a’th fawrygu: sut y mae’n tystiolaethu i’r hyn a dystiolaethodd Tafod Dy Orchymyn iddo yn nheyrnas Dy leferydd a nefoedd Dy wybodaeth. Dymunaf, yn y cyflwr hwn, o fy Arglwydd, erfyn Arnat am y cwbl sydd gyda Thi er mwyn i mi gael dangos fy nhlodi, a mawrygu Dy haelioni a’th gyfoeth, a datgan fy mod yn ddi-rym, ac amlygu Dy rym a’th nerth.

Yna bydded iddo sefyll a chodi ei ddwylo ddwywaith mewn ymbil, a dweud:

Nid oes Dduw ond Tydi, yr Hollalluog, yr Holl-Hael. Nid oes Dduw ond Tydi, yr Ordeiniwr, yn y dechrau ac hefyd yn y diwedd. O Dduw, fy Nuw! Mae Dy faddeuant wedi fy hyfhau, a Dy drugaredd wedi fy nghryfhau, a Dy alwad wedi fy neffro, a Dy ras wedi fy nyrchafu a’m arwain atat Ti. Fel arall, pwy ydwyf fi, i mi feiddio sefyll wrth byrth dinas Dy agosrwydd, neu droi fy wyneb tua’r goleuadau a ddisgleiriant o nefoedd Dy ewyllys? Fe weli Di, O fy Arglwydd, y creadur truenus hwn yn curo ar ddrws Dy ras, a’r enaid ddiflanedig hwn yn chwilio am afon bywyd tragwyddol o ddwylo Dy haelioni. I Ti mae’r gorchymyn bob amser, O Tydi yr hwn wyt Arglwydd yr holl enwau; ac i mi y mae ymostyngiad ac ufudd-dod i’th ewyllys, O Greawdwr y nefoedd!

Yna bydded iddo godi ei ddwylo dair gwaith, a dweud:

Mae Duw yn fwy na phob un mawr!

Yna bydded iddo benlinio, a chan wyro ei dalcen at y ddaear, dweud:

Rhyw uchel wyt Ti i glod y sawl sydd yn agos atat esgyn i nefoedd dy agosrwydd, nac i adar calonnau y sawl sydd wedi ymroi i Ti gyrraedd Dy borth. Tystiaf i Ti gael dy sancteiddio uwchlaw pob priodoledd a sanctaidd uwchlaw pob enw. Nid oes Duw ond Tydi, y Mwyaf Dyrchafedig, a’r Mwyaf Gogoneddus.

Yna bydded iddo eistedd a dweud:

Tystiaf i’r hyn y mae popeth a grewyd wedi tystiolaethu iddo, a’r Dyrfa fry, a thrigolion y Baradwys sy’n y goruchaf, a thu hwnt iddynt Dafod Mawredd ei hun o’r Gorwel holl-ogoneddus, mai Tydi wyt Dduw, nid oes Duw ond Tydi, ac mai Efe a amlygwyd yw’r Dirgelwch Cudd, y Symbol a Drysorir, trwy’r Hwn y mae’r llythrennau B ac E (Be) wedi eu huno a’u gwau ynghyd. Tystiaf mai Ef, yw’r hwn y mae Ei enw wedi ei osod i lawr gan Ysgrifbin y Goruchaf, y bu sôn amdano yn Llyfrau Duw, Arglwydd yr Orseddfainc fry a’r ddaear isod.

Yna bydded iddo sefyll yn syth a dweud:

O Arglwydd pob peth sy’n bod a Meddianwr pob peth gweledig ac anweledig! Rwyt yn canfod fy nagrau a’r ocheneidiau a ddaw o’m genau, ac yn clywed fy ngriddfan, fy wylofain a galarnad fy nghalon. Trwy Dy nerth! Cadwodd fy nhroseddau fi’n ôl rhag nesáu atat Ti, a daliodd fy mhechodau fi ymhell oddi wrth lys Dy sancteiddrwydd. Mae Dy gariad, o fy Arglwydd, wedi fy nghyfoethogi, a chael fy ngwahanu oddi Wrthyt Ti wedi fy ninistrio, a phellter oddi Wrthyt Ti wedi fy nifa. Erfyniaf Arnat trwy Dy gamre yn y diffeithwch hwn, a thrwy’r geiriau ‘Dyma fi. Dyma Fi’ y mae Dy Etholedigion wedi eu llefaru yn yr ehangder hwn, a thrwy anadliadau Dy Ddatguddiad, ac awelon tyner Gwawr Dy Amlygiad, i orchymyn y caf syllu ar Dy harddwch a gweld pa beth bynnag sydd yn Dy Lyfr.

Yna bydded iddo ddweud yr Enw Mwyaf Mawr dair gwaith, a phlygu i lawr â’i ddwylo’n gorffwys ar ei liniau, a dweud:

Moliant fyddo i Ti, O fy Nuw, am i Ti fy nghynorthwyo i’th gofio a’th foli ac amlygu i mi yr Hwn sy’n Ffynhonnell-Ddydd Dy arwyddion, ac wedi peri i mi wyro i lawr o flaen Dy Arglwyddiaeth, a darostwng fy hun o flaen Dy Dduwdod, a chydnabod yr hyn a lefarwyd gan Dafod Dy fawredd.

Yna bydded iddo godi a dweud:

O Dduw, fy Nuw! Crymwyd fy nghefn gan faich fy mhechodau, a dinistriwyd fi gan fy esgeulustod. Bob tro y byddaf yn ystyried fy nghamweddau i a’th garedigrwydd Di, mae fy nghalon yn toddi o’m mewn, a’m gwaed yn berwi yn fy ngwythiennau. Trwy Dy Harddwch, O Tydi, ddyhead y byd! Mae gennyf gywilydd codi fy wyneb atat Ti, ac estyn fy nwylo hiraethus tuag at nef Dy Haelioni. Fe weli Di, O fy Nuw, sut mae fy nagrau’n fy rhwystro rhag Dy gofio Di a mawrygu Dy rinweddau, O Tydi Arglwydd yr Orseddfainc fry a’r ddaear isod! Erfyniaf arnat, trwy arwyddion Dy Deyrnas a dirgelion Dy Arglwyddiaeth i wneud â’r rhai a geri fel y mae’n gweddu i’th haelioni O Arglwydd pob peth sy’n bod, ac yn deilwng o Dy ras, O Frenin y gweledig a’r anweledig!

Yna bydded iddo ddweud yr Enw Mwyaf Mawr dair gwaith, a phenlinio gyda’i dalcen ar y llawr, a dweud:

Moliant fyddo i Ti, O ein Duw, am fod wedi anfon i lawr atom yr hyn sydd yn ein tynnu ni’n nes atat Ti, ac yn rhoi i ni bob peth da a yrrwyd i lawr gennyt Ti yn Dy Lyfrau a’th Ysgrythurau. Amddifyn ni, erfyniwn arnat, O fy Arglwydd, rhag y minteioedd o ddarfelyddion gwag a dychmygion ofer. Tydi, mewn gwirionedd, wyt y Nerthol, yr Holl-Wybodus.

Yna bydded iddo godi ei ben, ac eistedd, a dweud:

Tystiaf, O fy Nuw, i’r hyn y mae Dy Etholedigion wedi tystiolaethu iddo, a chydnabdyddaf yr hyn y mae trigolion yr holl-uchel Baradwys a’r rhai sydd wedi amgylchynu Dy Orseddfainc nerthol wedi cydnabod. Eiddo Ti yw teyrnasoedd nef a daear, O Arglwydd y bydoedd!

Long Obligatory Prayer (to be recited once in 24 hours

Whoso wisheth to recite this prayer, let him stand up and turn unto God, and, as he standeth in his place, let him gaze to the right and to the left, as if awaiting the mercy of his Lord, the Most Merciful, the Compassionate. Then let him say:

O Thou Who art the Lord of all names and the Maker of the heavens! I beseech Thee by them Who are the Daysprings of Thine invisible Essence, the Most Exalted, the All-Glorious, to make of my prayer a fire that will burn away the veils which have shut me out from Thy beauty, and a light that will lead me unto the ocean of Thy Presence.

Let him then raise his hands in supplication toward God - blessed and exalted be He - and say:

O Thou the Desire of the world and the Beloved of the nations! Thou seest me turning toward Thee, and rid of all attachment to anyone save Thyself, and clinging to Thy cord, through whose movement the whole creation hath been stirred up. I am Thy servant, O my Lord, and the son of Thy servant. Behold me standing ready to do Thy will and Thy desire, and wishing naught else except Thy good pleasure. I implore Thee by the Ocean of Thy mercy and the Daystar of Thy grace to do with Thy servant as Thou willest and pleasest. By Thy might which is far above all mention and praise! Whatsoever is revealed by Thee is the desire of my heart and the beloved of my soul. O God, my God! Look not upon my hopes and my doings, nay rather look upon Thy will that hath encompassed the heavens and the earth. By Thy Most Great Name, O Thou Lord of all nations! I have desired only what Thou didst desire, and love only what Thou dost love.

Let him then kneel, and bowing his forehead to the ground, let him say:

Exalted art Thou above the description of anyone save Thyself, and the comprehension of aught else except Thee.

Let him then stand and say:

Make my prayer, O my Lord, a fountain of living waters whereby I may live as long as Thy sovereignty endureth, and may make mention of Thee in every world of Thy worlds.

Let him again raise his hands in supplication, and say:

O Thou in separation from Whom hearts and souls have melted, and by the fire of Whose love the whole world hath been set aflame! I implore Thee by Thy Name through which Thou hast subdued the whole creation, not to withhold from me that which is with Thee, O Thou Who rulest over all men! Thou seest, O my Lord, this stranger hastening to his most exalted home beneath the canopy of Thy majesty and within the precincts of Thy mercy; and this transgressor seeking the ocean of Thy forgiveness; and this lowly one the court of Thy glory; and this poor creature the orient of Thy wealth. Thine is the authority to command whatsoever Thou willest. I bear witness that Thou art to be praised in Thy doings, and to be obeyed in Thy behests, and to remain unconstrained in Thy bidding.

Let him then raise his hands, and repeat three times the Greatest Name (Alláh-u-Abhá). Let him then bend down with hands resting on the knees before God - blessed and exalted be He - and say:

Thou seest, O my God, how my spirit hath been stirred up within my limbs and members, in its longing to worship Thee, and in its yearning to remember Thee and extol Thee; how it testifieth to that whereunto the Tongue of Thy Commandment hath testified in the kingdom of Thine utterance and the heaven of Thy knowledge. I love, in this state, O my Lord, to beg to Thee all that is with Thee, that I may demonstrate my poverty, and magnify Thy bounty and Thy riches, and may declare my powerlessness, and manifest Thy power and Thy might.

Let him then stand and raise his hands twice in supplication, and say:

There is no God but Thee, the Almighty, the All-Bountiful. There is no God but Thee, the Ordainer, both in the beginning and in the end. O God, my God! Thy forgiveness hath emboldened me, and Thy mercy hath strengthened me, and Thy call hath awakened me, and Thy grace hath raised me up and led me unto Thee. Who, otherwise, am I that I should dare to stand at the gate of the city of Thy nearness, or set my face toward the lights that are shining from the heaven of Thy will? Thou seest, O my Lord, this wretched creature knocking at the door of Thy grace, and this evanescent soul seeking the river of everlasting life from the hands of Thy bounty. Thine is the command at all times, O Thou Who art the Lord of all names; and mine is resignation and willing submission to Thy will, O Creator of the heavens!

Let him then raise his hands thrice, and say:

Greater is God than every great one!

Let him then kneel and, bowing his forehead to the ground, say:

Too high art Thou for the praise of those who are nigh unto Thee to ascend unto the heaven of Thy nearness, or for the birds of the hearts of them who are devoted to Thee to attain to the door of Thy gate. I testify that Thou hast been sanctified above all attributes and holy above all names. No God is there but Thee, the Most Exalted, the All-Glorious.

Let him then seat himself and say:

I testify unto that whereunto have testified all created things, and the Concourse on high, and the inmates of the all-highest Paradise, and beyond them the Tongue of Grandeur itself from the all-glorious Horizon, that Thou art God, that there is no God but Thee, and that He who hath been manifested is the Hidden Mystery, the Treasured Symbol, through Whom the letters B and E (Be) have been joined and knit together. I testify that it is He Whose name hath been set down by the Pen of the Most High, and Who hath been mentioned in the Books of God, the Lord of the Throne on high and of earth below.

Let him then stand erect and say:

O Lord of all being and Possessor of all things visible and invisible! Thou dost perceive my tears and the sighs I utter, and hearest my groaning, and my wailing, and the lamentation of my heart. By Thy might! My trespasses have kept me back from drawing nigh unto Thee; and my sins have held me far from the court of Thy holiness. Thy love, O my Lord, hath enriched me, and separation from Thee hath destroyed me, and remoteness from Thee hath consumed me. I entreat Thee by Thy footsteps in this wilderness, and by the words “Here am I. Here am I” which Thy chosen Ones have uttered in this immensity, and by the breaths of Thy Revelation, and the gentle winds of the Dawn of Thy Manifestation, to ordain that I may gaze on Thy beauty and observe whatsoever is in Thy Book.

Let him then repeat the Greatest Name thrice, and bend down with hands resting on the knees, and say:

Praise be to Thee, O my God, that Thou hast aided me to remember Thee and to praise Thee, and hast made known unto me Him Who is the Dayspring of Thy signs, and hast caused me to bow down before Thy Lordship, and humble myself before Thy Godhead, and to acknowledge that which hath been uttered by the Tongue of Thy grandeur.

Let him then rise and say:

O God, my God! My back is bowed by the burden of my sins, and my heedlessness hath destroyed me. Whenever I ponder my evil doings and Thy benevolence, my heart melteth within me, and my blood boileth in my veins. By Thy Beauty, O Thou the Desire of the world! I blush to lift up my face to Thee, and my longing hands are ashamed to stretch forth toward the heaven of Thy bounty. Thou seest, O my God, how my tears prevent me from remembering Thee and from extolling Thy virtues, O Thou the Lord of the Throne on high and of earth below! I implore Thee by the signs of Thy Kingdom and the mysteries of Thy Dominion to do with Thy loved ones as becometh Thy bounty, O Lord of all being, and is worthy of Thy grace, O King of the seen and the unseen!

Let him then repeat the Greatest Name thrice, and kneel with his forehead to the ground, and say:

Praise be unto Thee, O our God, that Thou hast sent down unto us that which draweth us nigh unto Thee, and supplieth us with every good thing sent down by Thee in Thy Books and Thy Scriptures. Protect us, we beseech Thee, O my Lord, from the hosts of idle fancies and vain imaginations. Thou, in truth, art the Mighty, the All-Knowing.

Let him then raise his head, and seat himself, and say:

I testify, O my God, to that whereunto Thy chosen Ones have testified, and acknowledge that which the inmates of the all-highest Paradise and those who have circled round Thy mighty Throne have acknowledged. The kingdoms of earth and heaven are Thine, O Lord of the worlds!

Ceir ympryd yn ystod mis Àlá (Uchter) sef o 2il Mawrth i 20ed Mawrth. Yn ystod y dyddiau hyn ni ddylid cymryd bwyd na diod rhwng gwawr a machlud haul. Mae’n amser o weddïo ac adfywhâd ysbrydol.

Esgusodir y rhai o dan 15 oed, tethwyr, cleifion, merched gyda babanod rhag ymprydio.

Erfyniaf arnat, O fy Nuw, drwy Dy Arwydd nerthol, a thrwy ddatguddiad Dy ras ymysg dynion, i beidio a’m bwrw ymaith oddi wrth borth dinas Dy bresenoldeb, ac i beidio â siomi’r gobeithion y gosodais ar amlygiadau Dy ras ymysg Dy greaduriaid. Ti a’m gwêl, O fy Nuw, yn gafael ar Dy Enw, y Mwyaf Sanctaidd, y Mwyaf Llewyrchus, y Mwyaf Nerthol, y Mwyaf Mawr, y Mwyaf Dyrchafedig, y Mywaf Gogoneddus, ac yn glynnu wrth wrym y fantell i’r hwn y glynasant yr oll yn y byd hwn a’r byd a ddaw.

Erfyniaf arnat, O fy Nuw, trwy Dy Lais melysaf a thrwy Dy Air mwyaf dyrchafedig, i’m denu yn nes fyth at drothwy Dy ddrws, a na chaniatâ i mi fod ymhell oddi wrth gysgod Dy ras a nenlen Dy Haelioni. Ti a’m gwêl, O fy Nuw, yn gafael ar Dy Enw, y Mwyaf Sanctaidd, y Mwyaf Llewyrchus, y Mwyaf Nerthol, y Mwyaf Mawr, y Mwyaf Dyrchafedig, y Mywaf Gogoneddus, ac yn glynnu wrth wrym y fantell i’r hwn y glynasant yr oll yn y byd hwn a’r byd a ddaw.

Erfyniaf arnat, O fy Nuw, trwy ysblander Dy Ael llewyrchiol a disgleirdeb golau Dy wedd, a loywa oddi wrth y gorwel mwyaf uchel, i’m denu drwy bersawr Dy wisg, ac i’m gwneud i yfed o win melysaf Dy leferydd.Ti a’m gwêl, O fy Nuw, yn gafael ar Dy Enw, y Mwyaf Sanctaidd, y Mwyaf Llewyrchus, y Mwyaf Nerthol, y Mwyaf Mawr, y Mwyaf Dyrchafedig, y Mywaf Gogoneddus, ac yn glynnu wrth wrym y fantell i’r hwn y glynasant yr oll yn y byd hwn a’r byd a ddaw.

Erfyniaf arnat, O fy Nuw, drwy dy wallt sydd yn symud ar draws Dy wyneb, fel y mae Dy ysgrifbin mwyaf dyrchafedig yn symud ar draws dalennau Dy Dabledi, gan dywallt mwsg ystyron cudd dros deyrnas Dy greadigaeth, i’m codi i wasanaethu Dy Achos fel na fydd i mi syrthio yn ôl, nac i’m rhwystro gan awgrymiadau y rhai a gecrwyd yn erbyn Dy arwyddion ac a droesant oddi wrth Dy wyneb. Ti a’m gwêl, O fy Nuw, yn gafael ar Dy Enw, y Mwyaf Sanctaidd, y Mwyaf Llewyrchus, y Mwyaf Nerthol, y Mwyaf Mawr, y Mwyaf Dyrchafedig, y Mywaf Gogoneddus, ac yn glynnu wrth wrym y fantell i’r hwn y glynasant yr oll yn y byd hwn a’r byd a ddaw.

Erfyniaf arnat, O fy Nuw, trwy Dy Enw yr hwn a wnaethost yn Frenin Enwau, trwy’r hwn yr ymhyfrydwyd yr oll sydd yn y nefoedd ac ar y ddaear, i’m galluogi i syllu ar Seren-Dydd Dy Brydferthwch, ac i roi i mi win Dy leferydd. Ti a’m gwêl, O fy Nuw, yn gafael ar Dy Enw, y Mwyaf Sanctaidd, y Mwyaf Llewyrchus, y Mwyaf Nerthol, y Mwyaf Mawr, y Mwyaf Dyrchafedig, y Mywaf Gogoneddus, ac yn glynnu wrth wrym y fantell i’r hwn y glynasant yr oll yn y byd hwn a’r byd a ddaw.

Erfyniaf arnat, O fy Nuw, drwy Dabernacl Dy fawredd ar y copaon uchaf, a thrwy Nenlen Dy Ddatguddiad ar y bryniau uchaf, yn rasol i’m cymorth i wneud yr hyn a fyn Dy ewyllys ac a amlygwyd gan Dy arfaeth. Ti a’m gwêl, O fy Nuw, yn gafael ar Dy Enw, y Mwyaf Sanctaidd, y Mwyaf Llewyrchus, y Mwyaf Nerthol, y Mwyaf Mawr, y Mwyaf Dyrchafedig, y Mwyaf Gogoneddus, ac yn glynnu wrth wrym y fantell i’r hwn y glynasant oll yn y byd hwn a’r bydd a ddaw.

Erfyniaf arnat, O fy Nuw, trwy Dy Brydferthwch sydd yn disgleirio ymaith uwchben gorwel tragwyddoldeb, Prydferchwch sydd, cyn gynted ag yr amlygai ei hun, yn peri i deyrnas prdyferthwch ymostwng mewn addoliad, yn ei fawrygu mewn tonau soniarus, i ganiatáu i mi fawr i’m holl eiddo, ac i fyw i ba beth bynnag yr eiddo Ti. Ti a’m gwêl, O fy Nuw, yn gafael ar Dy Enw, y Mwyaf Sanctaidd, y Mwyaf Llewyrchus, y Mwyaf Nerthol, y Mwyaf Mawr, y Mwyaf Dyrchafedig, a Mwyaf Gogoneddus, ac yn glynnu wrth wrym y fantell i’r hwn y glynasant oll yn y byd hwn a’r byd a ddaw.

Erfyniaf arnat, O fy Nuw, trwy Amlygiad Dy Enw, yr hoff-anwylyd, drwy’r Hwn y llosgwyd calonnau Dy gariadon, ac esgynnodd eneidiau’r holl rhai a drig ar y ddaear, i’m cynorthwyo i’th gofio ymysg Dy greaduriaid, ac i’th fawrygu ymhlith Dy bobl. Ti a’m gwêl, O fy Nuw, yn gafael ar Dy Enw, y Mwyaf Sanctaidd, y Mwyaf Llewyrchus, y Mwyaf Nerthol, y Mwyaf Mawr, y Mwyaf Dyrchafedig, y Mwyaf Gogoneddus, ac yn glynnu wrth wrym y fantell i’r hwn y glynasant oll yn y byd hwn a’r byd a ddaw.

Erfyniaf arnat, O fy Nuw, trwy siffrwd y Goeden Lote ddwyfol a murmur awelon Dy leferydd yn nheyrnas Dy enwau, i’m cadw rhag pa beth bynnag a gasâ Dy ewyllys, ac i’m denu agos i’r safon yn yr hwn y disgleiriai ymaith yr Hwn sydd Ffynnon-Ddydd Dy arwyddion. Ti a’m gwêl, O fy Nuw, yn gafael ar Dy Enw, y Mwyaf Sanctaidd, y Mwyaf Llewyrchus, y Mwyaf Nerthol, y Mwyaf Mawr, y Mwyaf Dyrchafedig, y Mwyaf Gogoneddus, ac yn glynnu wrth wrym y fantell i’r hwn y glynasant oll yn y byd hwn a’r byd a ddaw.

Erfyniaf arnat, O fy Nuw, trwy’r Llythyren honno, cyn gynted ag iddi ddod ymaith o enau Dy ewyllys a pherodd i’r eigion ymchwyddo, ac i’r gwyntoedd chwythu, ac i’r ffrwythau gael eu datguddio, ac i’r coed darddu ymaith, ac i’r holl drywyddon gorffennol ddiflannu, ac i’r holl lenni gael eu rhwygo yn ddarnau, ac i’r rhai sydd yn ffyddlon i Ti brysuro tuag at olau wynepryd eu Harglwydd, y Digymell, i roi, i mi wybod yr hyn oedd yn gudd yn nhrysorfeydd Dy wybodaeth, ac yn ddirgel o fewn ystorfeydd Dy ddoethineb. Ti a’m gwêl, O fy Nuw, yn gafael ar Dy Enw, y Mwyaf Sanctaidd, y Mwyaf Llewyrchus, y Mwyaf Nerthol, y Mwyaf Mawr, y Mwyaf Dyrchafedig, y Mwyaf Gogoneddus, ac yn glynnu wrth wrym y fantell i’r hwn y glynasant oll yn y byd hwn a’r byd a ddaw.

Erfyniaf arnat, O fy Nuw, trwy dân dy gariad a ymlid cwsg oddi wrth llygaid Dy rai detholedig a’Th gariadon, a thrwy eu coffadwriaeth a’u moliant ohonot gyda’r wawr, i’m cyfrif ymysg y rhai a gyrhaeddodd yr Hwn yr anfonaist i lawr yn dy lyfr ac yr amlygaist trwy Dy ewyllys. Ti a’m gwêl, O fy Nuw, yn gafael ar Dy Enw, y Mwyaf Sanctaidd, y Mwyaf Llewyrchus, y Mwyaf Nerthol, y Mwyaf Mawr, y Mwyaf Dyrchafedig, y Mwyaf Gogoneddus, ac yn glynnu wrth wrym y fantell i’r hwn y glynasnant oll yn y byd hwn a’r bydd a ddaw.

Erfyniaf arnat, O fy Nuw, trwy olau dy wynepryd, a orfododd y rhai cyfagos i Ti i dderbyn saethau Dy orchymyn, a’r rhai ffyddlon i wynebu cleddyfau Dy elynion yn Dy lwybr, i ysgrifennu i lawr i mi gyda’Th Ysgrifbin mwyaf dyrchafedig yr hyn yr ysgrifenaist i lawr ar gyfer yr rhai yr ymddiriedaist ynddynt a’r rhai detholedig. Ti a’m gwêl, O fy Nuw, yn gafael ar Dy Enw, y Mwyaf Sanctaidd, y Mwyaf Llewyrchus, y Mwyaf Nerthol, y Mwyaf Mawr, y Mwyaf Dyrchafedig, y Mwyaf Gogoneddus, ac yn glynnu wrth wrym y fantell i’r hwn y glynasnant oll yn y byd hwn a’r bydd a ddaw.

Erfyniaf arnat, O fy Nuw, trwy Dy Enw, trwy’r Hwn y clusfeiniaist ar alwad Dy gariadon ac ochneidiau y rhai a hiraethant amdanat, a chri y rhai sydd yn mwynhau agosrwydd atat, a griddfan y rhai sydd ffyddlon i Ti, a thrwy’r hyn y cyflawnaist ddymuniadau y rhai a osodasant eu gobeithion arnat, ac a roddaist iddynt eu hawydd, trwy Dy ras a’Th ffafriau, a thrwy Dy Enw trwy’r hwn yr ymchwyddodd môr maddeuant o flaen Dy wyneb, a thywalltodd cymylau Dy haelioni dros Dy weision, i ysgrifennu i lawr i bob un a drodd atat Ti, ac a gadwodd yr ympryd a orchmynnwyd ganddot, y wobr a ordeiniwyd i’r sawl na siarada ond trwy Dy gennad, ac a adawsant yr hyn oll yr eiddynt yn Dy lwybr ac yn eu cariad amdanat.

Erfyniaf arnat, O fy Nuw, trwy dy Hun, a thrwy Dy Arwyddion, a’th argoelion amlwg, a golau disglair Seren-Ddydd Dy Brydferthwch, a’Th Ganghenau, i ddileu troseddau y rhai a afaelasant yn ddiysgog wrth Dy gyfraith, ac a lynasant wrth yr hyn yr orchmynaist Ti iddynt yn Dy lyfr. Ti a’m gwêl, O fy Nuw, yn gafael ar Dy Enw, y Mwyaf Sanctaidd, y Mwyaf Llewyrchus, y Mwyaf Nerthol, y Mwyaf Mawr, y Mwyaf Dyrchafedig, y Mwyaf Gogoneddus, ac yn glynnu wrth wrym y fantell i’r hwn y glynasnant oll yn y byd hwn a’r bydd a ddaw.

The Kitáb-i-Aqdas states: “We have commanded you to pray and fast from the beginning of maturity [15 year]; this is ordained by God, your Lord and the Lord of your forefathers…. The traveler, the ailing, those who are with child or giving suck, are not bound by the fast…. Abstain from food and drink, from sunrise to sundown, and beware lest desire deprive you of this grace that is appointed in the Book.”

The period of the Fast is March 2 through March 20.

I beseech Thee, O my God, by Thy mighty Sign, and by the revelation of Thy grace amongst men, to cast me not away from the gate of the city of Thy presence, and to disappoint not the hopes I have set on the manifestations of Thy grace amidst Thy creatures. Thou seest me, O my God, holding to Thy Name, the Most Holy, the Most Luminous, the Most Mighty, the Most Great, the Most Exalted, the Most Glorious, and clinging to the hem of the robe to which have clung all in this world and in the world to come.

I beseech Thee, O my God, by Thy most sweet Voice and by Thy most exalted Word, to draw me ever nearer to the threshold of Thy door, and to suffer me not to be far removed from the shadow of Thy mercy and the canopy of Thy bounty. Thou seest me, O my God, holding to Thy Name, the Most Holy, the Most Luminous, the Most Mighty, the Most Great, the Most Exalted, the Most Glorious, and clinging to the hem of the robe to which have clung all in this world and in the world to come.

I beseech Thee, O my God, by the splendor of Thy luminous brow and the brightness of the light of Thy countenance, which shineth from the all-highest horizon, to attract me by the fragrance of Thy raiment, and make me drink of the choice wine of Thine utterance. Thou seest me, O my God, holding to Thy Name, the Most Holy, the Most Luminous, the Most Mighty, the Most Great, the Most Exalted, the Most Glorious, and clinging to the hem of the robe to which have clung all in this world and in the world to come.

I beseech Thee, O my God, by Thy hair which moveth across Thy face, even as Thy most exalted pen moveth across the pages of Thy Tablets, shedding the musk of hidden meanings over the kingdom of Thy creation, so to raise me up to serve Thy Cause that I shall not fall back, nor be hindered by the suggestions of them who have caviled at Thy signs and turned away from Thy face. Thou seest me, O my God, holding to Thy Name, the Most Holy, the Most Luminous, the Most Mighty, the Most Great, the Most Exalted, the Most Glorious, and clinging to the hem of the robe to which have clung all in this world and in the world to come.

I beseech Thee, O my God, by Thy Name which Thou hast made the King of Names, by which all who are in heaven and all who are on earth have been enraptured, to enable me to gaze on the Daystar of Thy Beauty, and to supply me with the wine of Thine utterance. Thou seest me, O my God, holding to Thy Name, the Most Holy, the Most Luminous, the Most Mighty, the Most Great, the Most Exalted, the Most Glorious, and clinging to the hem of the robe to which have clung all in this world and in the world to come.

I beseech Thee, O my God, by the Tabernacle of Thy majesty upon the loftiest summits, and the Canopy of Thy Revelation on the highest hills, to graciously aid me to do what Thy will hath desired and Thy purpose hath manifested. Thou seest me, O my God, holding to Thy Name, the Most Holy, the Most Luminous, the Most Mighty, the Most Great, the Most Exalted, the Most Glorious, and clinging to the hem of the robe to which have clung all in this world and in the world to come.

I beseech Thee, O my God, by Thy Beauty that shineth forth above the horizon of eternity, a Beauty before which as soon as it revealeth itself the kingdom of beauty boweth down in worship, magnifying it in ringing tones, to grant that I may die to all that I possess and live to whatsoever belongeth unto Thee. Thou seest me, O my God, holding to Thy Name, the Most Holy, the Most Luminous, the Most Mighty, the Most Great, the Most Exalted, the Most Glorious, and clinging to the hem of the robe to whicI beseech Thee, O my God, by the Manifestation of Thy Name, the Well-Beloved, through Whom the hearts of Thy lovers were consumed and the souls of all that dwell on earth have soared aloft, to aid me to remember Thee amongst Thy creatures, and to extol Thee amidst Thy people. Thou seest me, O my God, holding to Thy Name, the Most Holy, the Most Luminous, the Most Mighty, the Most Great, the Most Exalted, the Most Glorious, and clinging to the hem of the robe to which have clung all in this world and in the world to come.h have clung all in this world and in the world to come.

I beseech Thee, O my God, by the rustling of the Divine Lote-Tree and the murmur of the breezes of Thine utterance in the kingdom of Thy names, to remove me far from whatsoever Thy will abhorreth, and draw me nigh unto the station wherein He Who is the Dayspring of Thy signs hath shone forth. Thou seest me, O my God, holding to Thy Name, the Most Holy, the Most luminous, the Most Mighty, the Most Great, the Most Exalted, the Most Glorious, and clinging to the hem of the robe to which have clung all in this world and in the world to come.

I beseech Thee, O my God, by that Letter which, as soon as it proceeded our of the mouth of Thy will, hath caused the oceans to surge, and the winds to blow, and the fruits to be revealed, and the trees to spring forth, and all past traces to vanish, and all veils to be rent asunder, and them who are devoted to Thee to hasten unto the light of the countenance of their Lord, the Unconstrained, to make known unto me what lay hid in the treasuries of Thy knowledge and concealed within the repositories of Thy wisdom. Thou seest me, O my God, holding to Thy Name, the Most Holy, the Most Luminous, the Most Mighty, the Most Great, the Most Exalted, the Most Glorious, and clinging to the hem of the robe to which have clung all in this world and in the world to come.

I beseech Thee, O my God, by the fire of Thy love which drove sleep from the eyes of Thy chosen ones and Thy loved ones, and by their remembrance and praise of Thee at the hour of dawn, to number me with such as have attained unto that which Thou hast sent down in Thy Book and manifested through Thy will. Thou seest me, O my God, holding to Thy Name, the Most Holy, the Most Luminous, the Most Mighty, the Most Great, the Most Exalted, the Most Glorious, and clinging to the hem of the robe to which have clung all in this world and in the world to come.

I beseech Thee, O my God, by the light of Thy countenance which impelled them who are nigh unto Thee to meet the darts of Thy decree, and such as are devoted to Thee to face the swords of Thine enemies in Thy path, to write down for me with Thy most exalted Pen what Thou hast written down for Thy trusted ones and Thy chosen ones. Thou seest me, O my God, holding to Thy Name, the Most Holy, the Most Luminous, the Most Mighty, the Most Great, the Most Exalted, the Most Glorious, and clinging to the hem of the robe to which have clung all in this world and in the world to come.

I beseech Thee, O my God, by Thy Name through which Thou hast hearkened unto the call of Thy lovers, and the sighs of them that long for Thee, and the cry of them that enjoy near access to Thee, and the groaning of them that are devoted to Thee, and through which Thou hast fulfilled the wishes of them that have set their hopes on Thee, and hast granted them their desires, through Thy grace and Thy favors, and by Thy Name through which the ocean of forgiveness surged before Thy face, and the clouds of Thy generosity rained upon Thy servants, to write down for every one who hath turned unto Thee, and observed the fast prescribed by Thee, the recompense decreed for such as speak not except by Thy leave, and who forsook all that they possessed in Thy path and for love of Thee.

I beseech Thee, O my Lord, by Thyself, and by Thy signs, and Thy clear tokens, and the shining light of the Day-Star of Thy Beauty, and Thy Branches, to cancel the trespasses of those who have held fast to Thy laws, and have observed what Thou hast prescribed unto them in Thy Book. Thou seest me, O my God, holding to Thy Name, the Most Holy, the Most Luminous, the Most Mighty, the Most Great, the Most Exalted, the Most Glorious, and clinging to the hem of the robe to which have clung all in this world and in the world to come.

Dyddiau o baratoi ar gyfer yr ympryd, dyddiau o gyfeillgarwch, rhyddfrydugrwydd a rhoi anrhegion yw’r Dyddiau Rhyng-Galendraidd (Chwefror 26 hyd Mawrth 1)

Fy Nuw, fy Nhân a’m Goleuni! Mae’r dyddiau a elwaist yr Ayyám-i-Há yn Dy Lyfr wedi cyrraedd, O Tydi yr Hwn wyt yn Frenin enwau, ac mae’r ympryd a gymhellwyd ar bawb sydd yn nheyrnas Dy greadigaeth i gadw gan Dy ‘Sgrifbin mwyaf dyrchafedig yn agosáu. Erfyniaf arnot, O f’Arglwydd, trwy y dyddiau hyn a thrwy’r holl rai sydd, yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi glynnu wrth rwymyn Dy orchmynion a chydio yn nolen Dy wirebau, i ganiatau i le o fewn cyffiniau Dy lys gael ei benodi ar gyfer pob enaid, ac eisteddle iddynt wrth ddatguddiad ysblander golau Dy wedd.

Rhain, O f’Arglwydd, yw Dy wiesion na pherodd i unrhyw duedd llygredig eu cadw rhag yr hyn yr anfonaist i lawr yn Dy Lyfr. Ymgrymasant o flaen Dy Achos, a dderbyniasant Dy Dy Lyfr â’r penderfyniad hwnnw a annwyd ohonot Ti, ac a ddilynasant yr hyn y gorchmynaist iddynt, ac a ddewisasant i ddilyn yr hyn a anfonwyd i lawr ganddo Ti.

Ti a weli, O f’Arglwydd, fel yr adnabyddasant a chyfaddefasant pa beth bynnag y datguddiasaist yn Dy Ysgrythurau. Rho iddynt yfed, O f’Arglwydd o ddwylo Dy rasoldeb a dyfroedd Dy dragwyddoldeb. Ysgrifenna i lawr, felly, ar eu cyfer yr ad-daliad yr ordeiniasaist ar gyfer yr hwn a drocha ei hun ym môr Dy bresenoldeb, ac a gyrhaeddodd melys win Dy gyfarfod.

Erfyniaf arnat, Tydi Frenin y brenhinoedd a’r Hwn a drugarhâ wrth y gorthrymedig, i ordeinio ar eu cyfer dda’r byd hwn a’r byd a ddaw. Ysgrifenna i lawr iddynt, ymhellach, yr hyn nad oes unrhyw un o’th greaduriaid wedi ei ddarganfod a chyfra hwynt ymysg y rhai a ymgylchasant o’th amgylch, ac a symudant o gwmpas Dy Orsedd ym mhob byd o’th fydoedd.

Tydi, yn wir, yw’r Hollalluog, yr Holl-Wybodol, yr Holl-Hysbysedig.

(The Intercalary Days, February 26 to March 1, inclusive, should be days of preparation for the Fast, days of hospitality, charity and the giving of presents.)

My God, my Fire and my Light! The days which Thou hast named the Ayyam-i-Ha in Thy Book have begun, O Thou Who art the King of names, and the fast which Thy most exalted Pen hath enjoined unto all who are in the kingdom of Thy creation to observe is approaching. I entreat Thee, O my Lord, by these days and by all such as have during that period clung to the cord of Thy commandments, and laid hold on the handle of Thy precepts, to grant that unto every soul may be assigned a place within the precincts of Thy court, and a seat at the revelation of the splendors of the light of Thy countenance.

These, O my Lord, are Thy servants whom no corrupt inclination hath kept back from what Thou didst send down in Thy Book. They have bowed themselves before Thy Cause, and received Thy Book with such resolve as is born of Thee, and observed what Thou hadst prescribed unto them, and chosen to follow that which had been sent down by Thee.

Thou seest, O my Lord, how they have recognized and confessed whatsoever Thou hast revealed in Thy Scriptures. Give them to drink, O my Lord, from the hands of Thy graciousness the waters of Thine eternity. Write down, then, for them the recompense ordained for him that hath immersed himself in the ocean of Thy presence, and attained unto the choice wine of Thy meeting.

I implore Thee, O Thou the King of kings and the Pitier of the downtrodden, to ordain for them the good of this world and of the world to come. Write down for them, moreover, what none of Thy creatures hath discovered, and number them with those who have circled round Thee, and who move about Thy throne in every world of Thy worlds.

Thou, truly, art the Almighty, the All-Knowing, the All-Informed.

O ffrydiau pêr Dy dragwyddoldeb dyro i mi yfed, O fy Nuw, ac o ffrwyth pren Dy hanfod gad i mi brofi, O fy Ngobaith! O ffynhonnau crisialaidd Dy gariad caniatâ i mi ddrachtio, O fy Ngogoniant, ac yng nghysgod Dy ragluniaeth ddiddiwedd gad i mi drigo, O fy Ngoleuni! O fewn dolydd dy agosrwydd, ger bron Dy bresenoldeb gad i mi grwydro, O fy Anwylyd, ac ar ddeheulaw gorsedd Dy drugaredd gad i mi eistedd O fy Nymuniad! O awelon pêr Dy lawenydd dyro i anadl ddisgyn arnaf, O fy Nod, a dyro im fynediad i uchelderau paradwys Dy wirionedd, O fy Nghariad! Dyro im glustfeinio alawon colomen Dy undod, O’r Un ysblennydd, a bywhâ fi trwy ysbryd Dy nerth a’th allu, O fy’n Narparwr! Yn ysbryd Dy gariad cadw fi’n gadarn, O fy Nghymorth, a chadarnhâ fy nghamre yn llwybr D’awyddfryd O fy Nghrewr! O flaen Dy wynepryd, yng ngardd D’anfarwoldeb gad i mi aros yn oes oesodd, Tydi yr Hwn wyt drugarog wrthyf, ac ar orseddfainc Dy ogononiant dyro i mi eistedd, O Tydi yr Hwn wyt fy meddiannwr! Cod fi i nefoedd Dy drugaredd, O Tydi sydd yn fy mywhau, a thywys fi tuag at seren ddydd Dy gyfarwyddyd, O Tydi sydd yn fy nenu! Galw fi i fod yn bresennol o flaen datguddiad D’ysbryd anweledig, Ti yr Hwn wyt fy Ngwraidd a’m Dymuniad Pennaf, ac i hanfod bersawr Dy harddwch, a amlygir gennyt, gâd i mi ddychwelyd, O Tydi yr Hwn wyt fy Nuw!

Galluog ydwyt i wneuthur yr hyn a fynni. Tydi, yn wir, yw’r Mwyaf Dyrchafedig, y Mwyaf Gogoneddus, y Goruchaf.

From the sweet-scented streams of Thine eternity give me to drink, O my God, and of the fruits of the tree of Thy being enable me to taste, O my Hope! From the crystal springs of Thy love suffer me to quaff, O my Glory, and beneath the shadow of Thine everlasting providence let me abide, O my Light! Within the meadows of Thy nearness, before Thy presence, make me able to roam, O my Beloved, and at the right hand of the throne of Thy mercy, seat me, O my Desire! From the fragrant breezes of Thy joy let a breath pass over me, O my Goal, and into the heights of the paradise of Thy reality let me gain admission, O my Adored One! To the melodies of the dove of Thy oneness suffer me to hearken, O Resplendent One, and through the spirit of Thy power and Thy might quicken me, O my Provider! In the spirit of Thy love keep me steadfast, O my Succorer, and in the path of Thy good-pleasure set firm my steps, O my Maker! Within the garden of Thine immortality, before Thy countenance, let me abide for ever, O Thou Who art merciful unto me, and upon the seat of Thy glory stablish me, O Thou Who art my Possessor! To the heaven of Thy loving-kindness lift me up, O my Quickener, and unto the Day-Star of Thy guidance lead me, O Thou my Attractor! Before the revelations of Thine invisible spirit summon me to be present, O Thou Who art my Origin and my Highest Wish, and unto the essence of the fragrance of Thy beauty, which Thou wilt manifest, cause me to return, O Thou Who art my God!

Potent art Thou to do what pleasest Thee. Thou art, verily, the Most Exalted, the All-Glorious, the All-Highest.

O Tydi yr hwn wyt Arglwydd yr Arglwyddi. Tystiaf mai Ti yw Arglwydd yr holl greadigaeth, ac Addysgwr pob creadur, gweledig ac anweledig. Tystiaf i’th nerth amgylchynu’r holl fydysawd, ac na all lluoedd y ddaear fyth Dy ddigaloni na rheolaeth yr holl bobloedd na’r cenhedloedd Dy atal rhag cyflawni Dy ewyllys. Cyfaddefaf nad oes i Ti ddymuniad ond ailenedigaeth yr holl fyd, a sefydliad undod ei bobloedd, a iachawdwriaeth pawb sy’n trigi ynddo.

O Thou Who art the Lord of Lords! I testify that Thou art the Lord of all creation, and the Educator of all beings, visible and invisible. I bear witness that Thy power hath encompassed the entire universe, and that the hosts of the earth can never dismay Thee, nor can the dominion of all peoples and nations deter Thee from executing Thy purpose. I confess that Thou hast no desire except the regeneration of the whole world, and the establishment of the unity of its peoples, and the salvation of all them that dwell therein.

(I’w hadrodd unwaith bob dydd rhwng hanner dydd a machlud haul)

Tystiaf, O fy Nuw, i Ti fy nghreu i i’th adnabod Di ac i’th addoli Di. Tystiaf, ar y funud hon, i’m diymadferthedd ac i’th allu Di, i’m tlodi ac i’th gyfoeth Di. Nid oes Duw arall ond Ti, y Cymorth mewn Perygl, yr Hunangynhaliol.

(to be recited once a day between midday and sunset)

I bear witness, O my God, that Thou hast created me to know Thee and to worship Thee. I testify, at this moment, to my powerlessness and to Thy might, to my poverty and to Thy wealth. There is none other God but Thee, the Help in Peril, the Self-Subsisting.